Bil Cymru
Cefndir
1. Cyhoeddwyd Bil Cymru ar 7 Mehefin 2016.
2. Cyn cyflwyno Bil Cymru, trafodwyd Bil Cymru drafft gan Bwyllgor Cyllid y Pedwerydd Cynulliad.
Amcan
3. Mae nifer o ddarpariaethau ym Mil Cymru a allai fod o ddiddordeb i Aelodau'r Pwyllgor Cyllid.
4. Mae papur briffio a baratowyd ar gyfer y Pwyllgor gan y Gwasanaethau Ymchwil a Chyfreithiol ynghlwm yn y pecyn papurau.
5. Mae llythyr gan y Llywydd i holl Aelodau Seneddol Cymru, gyda diwygiadau a awgrymwyd i Fil Cymru ynghlwm fel Papur 1.
Amserlen
6. Mae amser ar gyfer ystyried y Bil yn gyfyngedig. Y cyfnod Pwyllgor yw 5 ac 11 Gorffennaf 2016, gyda chyfnod yr adroddiad yn debygol o fod yn gynnar ym mis Medi. Bydd yr amserlen hon yn cwtogi ar allu'r Aelodau i ddylanwadu ar hynt y Bil.
Camau gweithredu
7. Gwahoddir yr Aelodau i ystyried y papurau a rhoi gwybod i'r tîm clercio am unrhyw gamau yr hoffent eu cymryd.